Skip to content
Close notice

Our website uses cookies to give you the best possible experience. Cookies are unique identifiers that we transfer to your device to enable our systems to remember your session and how you interacted with the website. They are not there to identify you personally. To find out more about the cookies we use, click here.

Pryder am ddiogelwch plant? Beth allwch wneud

Mae Gymnasteg Cymru am i bawb fwynhau profiad hwyliog, positif, ble mae gymnastwyr yn gallu cyflawni eu potensial mewn amgylchedd sy’n ddiogel rhag unrhyw fath o gamdrin. 

Os ydych yn gymnast ifanc, darllennwch mwy o wybodaeth am gadw’n ddiogel a gyda pwy y gallwch siarad. Cofiwch, os ydych yn amau fod rhywbeth o’i le, mwy na thebyg eich bod yn iawn. 

Beth i’w wneud os oes gennych bryder

    • Os ydych yn credu fod plentyn mewn perygl ar unwaith o gamdriniaeth, neu risg o niwed sylweddol, neu angen gwarchodaeth, galwch yr heddlu ar 999 neu/a eich gwasanaethau cymdeithasol lleol 
    • Darllennwch y gwneud/peidiwch am sut i drin pryderon a siarad yn briodol â phlentyn
    • Os nad oes angen ymateb ar unwaith, siaradwch a’ch clwb, fel arfer swyddog lles y clwb (gofynwch i swyddog clwb pwy yw’r person yma, neu chwiliwch am y wybodaeth yma ar hysbysfwrdd y clwb). Fe ddylai’r swyddog lles, neu swyddog arall yn y clwb, lenwi ac anfon ffurflen adroddiad digwyddiad at Gymnasteg Cymru

[Mae’r lincs isod yn agor mewn ffenestri newydd]
Ffurflen adroddiad digwyddiad (Word, 2MB)
Ffurflen adroddiad digwyddiad (Pdf, 457KB)

  • O ran cyngor diogelu, gallwch alw Gymnasteg Cymru ar 029 2033 4960 9 (yn ystod oriau swyddfa). Gofynwch am y Prif Swyddog Diogelu · Gallwch hefyd ebostio office@welshgymnastics.org i gael cyngor diogelu

Gwneud a Pheidio Gwneud

Gwneud

  • Byddwch yn bwyllog
  • Dangoswch a dywedwch wrth y plentyn eich bod yn ystyried beth mae ef/hi yn dweud o ddifrif
  • Cysurwch y plentyn a pwysleisiwch nad hi/fe sydd ar fai
  • Gofynnwch gwestiynau agored ond peidiwch stilio neu roi geiriau yng ngheg y plentyn
  • Gwnewch yn eglur unrhywbeth sy’n ansicr ichi
  • Byddwch yn onest, esboniwch y bydd yn rhaid ichi ddweud wrth rhywun arall er mwyn atal y camdrin
  • Gwnewch nodyn o’r hyn ddwedodd y plentyn cyn gynted a phosib wedi’r digwyddiad
  • Dwedwch wrth y rhieni os yw’n briodol
  • Cadwch gyfrinachedd – dywedwch wrth eraill yn unig os yw’n gymorth i amddiffyn y plentyn
  • Dilynwch Ganllawiau’r Corff Llywodraethol Cenedlaethol [linc yn agor mewn ffenestr newydd]

Peidiwch

  • Colli eich pen
  • Rhuthro i wneud casgliadau a gweithredoed all fod yn amhriodol
  • Gwneud addewidion na allwch eu gwireddu
  • Gwneud i’r plentyn ailadrodd eu pryderon yn ormodol
  • Cymryd cyfrifoldeb am weithredu pellach
  • Recordio barn/si/argraffiadau – recordiwch yr hyn ddwedwyd neu a welwyd yn unig

COFIWCH
Nid eich cyfrifoldeb chi yw penderfynnu os yw plentyn yn cael ei gamdrin ai peidio, ond eich cyfrifoldeb chi yw gweithredu os oes gennych bryderon. Dyw peidio gweithredu o gwbl ddim yn opshiwn.
(Ewch nol i ‘beth i’w wneud os oes gennych bryder’).

Tudalennau eraill am Gadw'n Ddiogel

Gymnastwyr ifanc – sut i gadw’n ddiogel
Clybiau - amddiffyn plant
Gwybodaeth i swyddogion lles
Profion record troseddol (DBS)
Gwybodaeth bellach a chysylltiadau defnyddiol