Pryder am ddiogelwch plant? Beth allwch wneud
Mae Gymnasteg Cymru am i bawb fwynhau profiad hwyliog, positif, ble mae gymnastwyr yn gallu cyflawni eu potensial mewn amgylchedd sy’n ddiogel rhag unrhyw fath o gamdrin.
Os ydych yn gymnast ifanc, darllennwch mwy o wybodaeth am gadw’n ddiogel a gyda pwy y gallwch siarad. Cofiwch, os ydych yn amau fod rhywbeth o’i le, mwy na thebyg eich bod yn iawn.
Beth i’w wneud os oes gennych bryder
-
- Os ydych yn credu fod plentyn mewn perygl ar unwaith o gamdriniaeth, neu risg o niwed sylweddol, neu angen gwarchodaeth, galwch yr heddlu ar 999 neu/a eich gwasanaethau cymdeithasol lleol
- Darllennwch y gwneud/peidiwch am sut i drin pryderon a siarad yn briodol â phlentyn
- Os nad oes angen ymateb ar unwaith, siaradwch a’ch clwb, fel arfer swyddog lles y clwb (gofynwch i swyddog clwb pwy yw’r person yma, neu chwiliwch am y wybodaeth yma ar hysbysfwrdd y clwb). Fe ddylai’r swyddog lles, neu swyddog arall yn y clwb, lenwi ac anfon ffurflen adroddiad digwyddiad at Gymnasteg Cymru
[Mae’r lincs isod yn agor mewn ffenestri newydd]
Ffurflen adroddiad digwyddiad (Word, 2MB)
Ffurflen adroddiad digwyddiad (Pdf, 457KB)
- O ran cyngor diogelu, gallwch alw Gymnasteg Cymru ar 029 2033 4960 9 (yn ystod oriau swyddfa). Gofynwch am y Prif Swyddog Diogelu · Gallwch hefyd ebostio office@welshgymnastics.org i gael cyngor diogelu
Gwneud a Pheidio Gwneud
Gwneud
- Byddwch yn bwyllog
- Dangoswch a dywedwch wrth y plentyn eich bod yn ystyried beth mae ef/hi yn dweud o ddifrif
- Cysurwch y plentyn a pwysleisiwch nad hi/fe sydd ar fai
- Gofynnwch gwestiynau agored ond peidiwch stilio neu roi geiriau yng ngheg y plentyn
- Gwnewch yn eglur unrhywbeth sy’n ansicr ichi
- Byddwch yn onest, esboniwch y bydd yn rhaid ichi ddweud wrth rhywun arall er mwyn atal y camdrin
- Gwnewch nodyn o’r hyn ddwedodd y plentyn cyn gynted a phosib wedi’r digwyddiad
- Dwedwch wrth y rhieni os yw’n briodol
- Cadwch gyfrinachedd – dywedwch wrth eraill yn unig os yw’n gymorth i amddiffyn y plentyn
- Dilynwch Ganllawiau’r Corff Llywodraethol Cenedlaethol [linc yn agor mewn ffenestr newydd]
Peidiwch
- Colli eich pen
- Rhuthro i wneud casgliadau a gweithredoed all fod yn amhriodol
- Gwneud addewidion na allwch eu gwireddu
- Gwneud i’r plentyn ailadrodd eu pryderon yn ormodol
- Cymryd cyfrifoldeb am weithredu pellach
- Recordio barn/si/argraffiadau – recordiwch yr hyn ddwedwyd neu a welwyd yn unig