Gymnasteg i Bawb
Mae gymnasteg ar gyfer pawb, o bob oedran, gallu neu gefndir, a ‘rydym yn gweithio’n galed gyda chlybiau i greu cyfleoedd i bob unigolyn a chymuned.
Ein nôd yw hyrwyddo iechyd da a hyder corfforol fydd yn llesol i’r nifer mwyaf posib o bobl yng Nghymru.
Cwestiynau am Fonitro Cydraddoldeb - pam ein bod yn gofyn am wybodaeth penodol [PDF, 789KB, yn agor mewn ffenestr newydd].
Mae Gymnasteg Cymru yn addo:
- Arwain clybiau i fod yn gynhwysol, fel eu bod yn cynnig gymnasteg sy’n adlewyrchu amrywiaeth bywyd yng Nghymru
- Cyrraedd y lefel uwchraddol o gydraddoldeb mewn chwaraeon [linc yn agor mewn ffenestr newydd]
- Mewn partneriaeth gyda Chwaraeon Anabledd Cymru, ennill gwobr aur inSport [Linc yn agor mewn ffenestr newydd]
- Datblygu ac ehangu cynlluniau llwyddiannus ac arfer da mewn ardaloedd gwahanol yng Nghymru i dargedu grwpiau anodd eu cyrraedd. Mae menywod a merched o gymunedau du ac ethnig yn flaenoeriaeth.
- Datblygu a thyfu’r strwythur a chyfleoedd o fewn y ddisgyblaeth gymnasteg anabledd yng Nghymru.
- Cynnig gymnasteg mwy hygyrch a fforddiadwy mewn ardaloedd tlawd yng Nghymru, gan sicrhau fod mwy o blant yn iach ac actif.
- Cynnal darpariaeth gymnasteg gref trwy’r Gymraeg, ac ymrwymiad i’r iaith.