Skip to content
Close notice

Our website uses cookies to give you the best possible experience. Cookies are unique identifiers that we transfer to your device to enable our systems to remember your session and how you interacted with the website. They are not there to identify you personally. To find out more about the cookies we use, click here.

Gymnasteg i Bawb 

Mae gymnasteg ar gyfer pawb, o bob oedran, gallu neu gefndir, a ‘rydym yn gweithio’n galed gyda chlybiau i greu cyfleoedd i bob unigolyn a chymuned.

Ein nôd yw hyrwyddo iechyd da a hyder corfforol fydd yn llesol i’r nifer mwyaf posib o bobl yng Nghymru.

Cwestiynau am Fonitro Cydraddoldeb - pam ein bod yn gofyn am wybodaeth penodol [PDF, 789KB, yn agor mewn ffenestr newydd].

Mae Gymnasteg Cymru yn addo:

  • Arwain clybiau i fod yn gynhwysol, fel eu bod yn cynnig gymnasteg sy’n adlewyrchu amrywiaeth bywyd yng Nghymru
  • Cyrraedd y lefel uwchraddol o gydraddoldeb mewn chwaraeon [linc yn agor mewn ffenestr newydd]
  • Mewn partneriaeth gyda Chwaraeon Anabledd Cymru, ennill gwobr aur inSport [Linc yn agor mewn ffenestr newydd]
  • Datblygu ac ehangu cynlluniau llwyddiannus ac arfer da mewn ardaloedd gwahanol yng Nghymru i dargedu grwpiau anodd eu cyrraedd. Mae menywod a merched o gymunedau du ac ethnig yn flaenoeriaeth.
  • Datblygu a thyfu’r strwythur a chyfleoedd o fewn y ddisgyblaeth gymnasteg anabledd yng Nghymru.
  • Cynnig gymnasteg mwy hygyrch a fforddiadwy mewn ardaloedd tlawd yng Nghymru, gan sicrhau fod mwy o blant yn iach ac actif.
  • Cynnal darpariaeth gymnasteg gref trwy’r Gymraeg, ac ymrwymiad i’r iaith.