Cyffuriau – Iechyd, urddas, ac enw da mewn perygl
Mae cyffuriau mewn chwaraeon yn fater difrifol ac rydym o ddifrif am warchod cystadlu a datblgu glân.
(Mae’r lincs isod yn agor mewn ffenestri newydd)
Mae Gymnasteg Cymru yn gweithio gyda Gymnasteg Prydain, UK Anti-Doping (UKAD) a’r Ffederasiwn Gymnasteg Rhyngwladol (FIG) i warchod urddas ein camp. Mae Gymnasteg Cymru yn llwyr gefnogi profion gan UKAD a FIG.
Darllenwch Reolau Gwrth-Gyffuriau y DU.
Oeddech chi’n gwybod?
- Mae pob athletwr yn gyfangwbl gyfrifol am unrhyw ddeunydd gwaharddedig y mae nhw’n ddefnyddio, neu a ganfuwyd yn eu system, a does dim ots sut gyrhaeddodd yno na chwaith os oeddwn nhw’n bwriadu twyllo. Archwiliwch eich meddyginiaeth cyn ei gymeryd
- Gall profion gael eu cynnal mewn cystadleuthau (‘mewn cystadleuaeth’) ac mewn sesiynau hyfforddi Sgwad Genedlaethol (‘allan o gystadleuaeth’)
- Gall gymnastwyr dan 16 oed gael eu profi
- Gall gymnastwyr gael eu profi adref, neu yn eu clwb, ac yn arbennig pan eu bod o safon rhyngwladol
- Dylid gwneud y mwyaf o ddeiet, ffordd o fyw, a hyfforddiant cyn ystyried ychwanegiadau
Mae gwybodaeth lawn yn adran gwrth-gyffuriau gwefan Gymnasteg Prydain, gan gynnwys:
- Sut i archwilio meddygyniaethau dros y ffôn neu ar ebost
- Dulliau profi a hawliau athletwyr
- Rhestr Asiantaeth Gwrth-Gyffuriau’r Byd (WADA) o ddeunyddiau a dulliau a waherddir mewn chwaraeon (‘y Rhestr Waharddedig’)
- Eithriadau defnydd Therapiwtig (TUEs)
- Sut mae athletwyr ar y Rhestr Brofi Gofrestredig Genedlaethol yn nodi eu lleoliad yn swyddogol
RIPORTIWCH CYFFURIAU 24/7
Os oes gennych unrhyw bryderon am gyffuriau gallwch alw 0800 32 23 32 yn ddienw i siarad a rhywun cymwys sy’n annibynol i UKAD.
ADDYSG GWRTH-GYFFURIAU
100% me yw rhaglen addysg UKAD i athletwyr. Mae’r ymgyrch yn ymgorffori ac yn dathlu pump o werthoedd allweddol –
- Gwaith Caled
- Penderfyniad
- Angerdd
- Parch
- Urddas
Gallwch chi fod yn rhan o 100% me a dilyn yr holl newyddion trwy gofrestru ar gyfer 100% me neu ymuno â 100% me ar Facebook.