Mae Swyddogion Lles yn Bobl Bwysig Iawn....
Diolch am ddod yn swyddog lles clwb. Rydych yn Berson Pwysig Iawn yn Gymnasteg Cymru, a rydym yma i’ch helpu chi a’ch clwb osod diogelwch a hapusrwydd plant yn gyntaf.
Mae’n rhaid i bawb wybod sut i nodi pryder a thynnu sylw at arferion gwael.
Gwnewch yn siwr....
- Fod eich hyfforddiant diogelu yn gyfredol (Darllenwch fwy am hyfforddiant diogelu
- Eich bod ar bwyllgor y clwb
- Fod hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yn gwybod pwy ydych chi a sut y gallwch helpu
- Fod eich enw a’ch manylion cyswllt ar boster ar hysbysfwrdd y clwb
- Eich bod yn llenwi ac anfon ffurflen digwyddiad diogelu plentyn i Gymnasteg Cymru i nodi unrhyw fath o bryder (hyd yn oed pan nad oes angen gweithredu ar unwaith)
Ystyriwch hefyd...
- Cyfarfodydd rheolaidd i roi gwybodaeth i rieni a gofalwyr am warchod plant a’ch rôl chi
- Rhoi gwybodaeth yng nghylchlythyrau clwb a negeseuon cyfryngau cymdeithasol yn tynnu sylw at les plant a sut y gallwch helpu
Angen mwy o gefnogaeth neu gyngor?
Ffurflen adroddiad digwyddiad diogelu plentyn (Word, 2MB, linc yn agor mewn ffenestr newydd)
Ffurflen adroddiad digwyddiad diogelu plentyn (Pdf, 457KB, linc yn agor mewn ffenestr newydd)
Prif Bwyntiau Diogelu Gymnasteg Cymru
Mae gennym hefyd fwy o ddogfenni a lincs defnyddiol