Skip to content
Close notice

Our website uses cookies to give you the best possible experience. Cookies are unique identifiers that we transfer to your device to enable our systems to remember your session and how you interacted with the website. They are not there to identify you personally. To find out more about the cookies we use, click here.

Os ydych yn amau bod problem, mwy na thebyg eich bod yn iawn

Mae gymnasteg yn gyfle i gael hwyl, dysgu sgiliau a bod gyda’ch ffrindiau. 

Os oes unrhyw un yn eich atal rhag teimlo’n ddiogel ac yn hapus mewn gymnasteg, dylech siarad â rhywun y gallwch ymddiried ynddi/ynddo i helpu.
Darllenwch fwy am ymddygiad sydd ddim yn iawn.

Os oes gen i bryder, gyda phwy alla’i siarad?

  • Gall fod y person sy’n gofalu amdanoch adref, eich hyfforddwr, neu rhywun arall yn eich ysgol neu glwb gymasteg
  • Hefyd, mae swyddog lles yn eich clwb sydd yno i helpu – gofynnwch neu chwiliwch am y posteri sy’n dweud wrthoch pwy yw’r person yma.
  • Mae gan Gymnasteg Cymru Prif Swyddog Diogelu i helpu eich cadw’n ddiogel a gallwch siarad a’n swyddfa am gadw’n ddiogel ar 029 2033 4960
  • Gallwch hefyd ebostio office@welshgymnastics.org. Os hoffech inni eich galw chi neu ateb eich ebost, dwedwch wrthon ni sut a phryd
  • Mae Childline yn rhoi cyngor a chefnogaeth hefyd a gallwch eu ffonio nhw ar 08001111 (fydd y rhif yma ddim yn ymddangos ar eich bil ffôn; mae’r linc yn agor mewn ffenestr newydd)

Ymddygiad drwg – beth sydd ddim yn iawn?

Mae’r rhan fwyaf o bobol yn cael amser gwych mewn gymnasteg, ond weithiau gall pobl wneud pethau sy’n gwneud i chi neu ffrind deimlo’n anniogel neu’n anhapus. Dyw hyn ddim yn iawn. Gall rhai o’r pethau yma gynnwys rhywun yn:

  • Pigo arnoch chi neu’n eich bwlio chi (gall hyn fod arlein neu mewn tecst hefyd)
  • Eich taro chi neu eich brifo chi
  • Gwneud sylwadau am y ffordd ry’ch chi’n edrych neu’n siarad
  • Gwneud sylwadau hiliol, rhywiaethol, neu homoffobig
  • Eich cymell i ddod yn ffrindiau â nhw neu eu cyfarfod nhw neu dreulio amser ‘da nhw pan bod chi ddim eisiau gwneud hynny

Dyw’r pethau yma ddim yn oce, ac mae gennych yr hawl i ddelio a nhw. Am fwy o wybodaeth ar sut i daclo bwlio, cysylltwch â Kidscape (sy’n agor mewn ffenestr newydd).

Rydym yn disgwyl i bawb ddangos parch at bobl eraill.

(Ewch nôl i ‘Gyda phwy alla’i siarad’?

Pwy arall all helpu? (Lincs yn agor mewn ffenestri newydd)