Skip to content
Close notice

Our website uses cookies to give you the best possible experience. Cookies are unique identifiers that we transfer to your device to enable our systems to remember your session and how you interacted with the website. They are not there to identify you personally. To find out more about the cookies we use, click here.

Cymunedau gwych a phencampwyr – ein llywodraethiant

Gymnasteg Cymru yw gwarchodwr y gamp yng Nghymru. ‘Rydym yn awyddus i Gymru gael ei chydnabod fel cenedl flaengar mewn gymnasteg, yn cynhyrchu pencampwyr safon byd.

‘Rydym eisiau sicrhau hefyd fod mwy o blant, pobl ifanc, ac oedolion o bob cefndir, gallu a chymunedau yn gallu cymryd rhan mewn gymasteg. Yn unol a’r Fframwaith Llywodraethu ac Arwain ar gyfer Cymru [Dogfen Pdf 793KB, linc yn agor mewn ffenestr newydd], mae ‘r bwrdd ac uwch swyddogion Gymnasteg Cymru yn anelu at:

  • Ysbrydoli
  • Dangos eglurder yn arwain at amcanion a gefnogir gan weledigaeth strategol
  • Cynnig her a chefnogaeth
  • Annog pobl i fod ar eu gorau
  • Cyfathrebu rhagorol
  • Ymdrechu i wella
  • Gosod esiampl
  • Creu ymddiriedaeth

Ein Bwrdd

Daw aelodau ein bwrdd, dan gadeiryddiaeth Helen Phillips, o gefndiroedd amrywiol, ac fe’u penodwyd oherwydd eu sgiliau a’u harbenigedd.

Mwy o wybodaeth am aelodau bwrdd Gymnasteg Cymru.

Mae’r bwrdd yn helpu Prif Weithredwr Gymnasteg Cymru Rhian Gibson i benderfynnu blaenoriaethau ar gyfer y busnes, ac wedyn yn arolygu’r gwaith i sicrhau fod pawb yn cyrraedd eu targedi ac yn cynnal safonau uchel.

Mae aelodau annibynnol y bwrdd yn cadw llygad barcud ar y gwaith, ac yn cyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau, heb unrhyw fuddiannau personol yn y canlyniadau.

Mwy o wybodaeth

[Mae’r holl lincs isod yn agor mewn ffenestri newydd]:
Llawlyfr Llywodraethiant (dogfen Word, 2MB)
Llawlyfr Llywodraethiant (Pdf, 8MB)
Strategaeth Cymundedau a Chewri 2022 (Pdf, 8MB)
Adroddiad Blynyddol 2016 (dogfen Word, 1MB)
Adroddiad Blynyddol 2016 (Pdf, 1MB)