Your Cart

No items in cart

Sonia Mason

Arweinydd Chwaraeon Diogel

Rôl Sonia yw…

Cynnig cymorth ac arweiniad i’r Bwrdd, yn ogystal ag arbenigedd a safbwynt gwrthrychol ar y meysydd diogelu, lles athletwyr, lles a dyletswydd gofal

Beth sy’n cadw Sonia yn brysur:

  • Gweithio gyda’r Bwrdd i sicrhau ymateb cadarn ac amserol i ganfyddiadau Adolygiad diweddar Whyte ac Adolygiad Diogelu Annibynnol Gymnasteg Cymru.
  • Hyrwyddo diogelu a lles gymnastwyr, hyfforddwyr a staff ar draws pob maes o weithgarwch y Bwrdd.

Hanes gymnasteg: Ar ôl mwynhau gymnasteg yn blentyn, drwy ei hysgol a’i chlwb lleol, parhaodd Sonia yn ddiweddarach ei chariad at y gamp fel rhiant gymnastwr ac fel dilynwr brwdfrydig o gymnastwyr Prydeinig ar lwyfan y byd.
Mae Sonia yn angerddol yn ei chred bod cyfranogiad plant mewn chwaraeon, yn dod â llu o fanteision corfforol, meddyliol a chymdeithasol a thrwy ei gwaith gyda Bwrdd Gymnasteg Cymru, mae’n ymdrechu i sicrhau bod cymryd rhan mewn gymnasteg yn cynnig lle diogel a chefnogol i blant a phobl ifanc ffynnu fel athletwyr

 

Mwy am Sonia: Mae Sonia wedi gweithio mewn rolau uwch ddiogelu plant yn y GIG a sefydliadau darparwr iechyd eraill ers dros 20 mlynedd. Mae ganddi radd MSc mewn Iechyd Plant ac mae wedi bod yn rhan o nifer o adolygiadau diogelu Bractis Plant ac Adolygiadau Achos Difrifol ledled Cymru a Lloegr. Ar wahân i’w phenodiad i Fwrdd Gymnasteg Cymru ym mis Medi 2022, mae Sonia yn Aelod Panel Annibynnol ar gyfer asiantaeth faethu fawr ac mae’n gweithio hefyd fel adolygydd clinigol, gan arolygu trefniadau diogelu ar draws gwasanaethau iechyd Cymru.

Join Our
Mailing List