Mae Gymnasteg Cymru yn anelu at greu cymunedau gwych a phencampwyr. Fel corff rheoli, ‘rydym yn arwain, datblygu, cefnogi, ac yn gweithredu fel gwarchodwr y gamp yng Nghymru.
Ein nôd [linc i’r ddogfen strategaeth] yw i Gymru gael ei chydnabod fel cenedl arweiniol mewn gymnasteg, yn cynhyrchu pencampwyr safon byd, a chreu cymunedau bywiog a chynhwysol, lle mae pob gymnast yn cael profiad o safon uchel.
‘Rydym yn ymrwymo i gynnig gwasanaeth gwych i’n cymuned ac i eraill y tu hwnt i’r sefydliad.
‘Rydym yn addo croesawu pawb a chreu amgylchedd hwyliog i arwain gymnasteg i ddyfodol llwyddiannus. ‘Rydym yn atebol am gyrraedd ein amcanion yn onest ac yn agored tra’n trin ein gilydd gyda pharch ac urddas.
Mwy o wybodaeth am y math o gymnasteg ‘rydym yn ei gynnig a chymerwch olwg ar Strategaeth Gymnasteg Cymru [Pdf, 8MB, linc yn agor mewn ffenestr newydd].
Ni allwn gyflawni ein strategaeth a'n uchelgeisiau heb gefnogaeth partneriaid, arianwyr, llywodraeth leol a chenedlaethol, darparwyr hamdden, gwirfoddolwyr, busnesau a chymunedau. Diolch i bob un ohonoch.
Fe awn ni nôl i 1902, pan gafodd Cymdeithas Gymnasteg Amatur Cymru (WAGA) ei ffurfio. Am y rhan fwyf o’r ganrif honno, roedd WAGA yn gofalu am gymnasteg artistig dynion a merched.
Erbyn canol yr 1980au roedd disgyblaethau gymnasteg acrobatig, cyffredinol, a rhythmig wedi cychwyn. Heddiw, mae gymnasteg cyffredinol yn cynnwys rhaglenni i blant cyn-ysgol yn ogystal a phlant ac oedolion ag anghenion arbennig.
Ers diwedd y 1990au, mae aerobeg, trampolinio, tymblio ac ysgolion Cymru wedi dod dan faner Gymnasteg Cymru.
Erbyn 2004 ‘roedd Gymnasteg Cymru wedi gollwng ei statws amatur gan ddod yn gwmni cyfyngedig trwy warant.
Mae’r sefydliad ‘nawr yn cael ei arwain gan fwrdd cyfarwyddwyr yn seiliedig ar sgiliau, dan gadeiryddiaeth Helen Phillips.
Sut i gysylltu â Gymnasteg Cymru
Cliciwch yma i ddysgu mwy am staff Gymnasteg Cymru ac aelodau’r bwrdd. (Mae siaradwyr Cymraeg wedi eu nodi, bywgraffiadau yn Saesneg).
Mwy o wybodaeth am Lywodraethiant Gymnasteg Cymru