Gwybodaeth Aelodaeth
System aelodaeth newydd yn lansio Hydref 2il
Dechreuwch eich taith gymnasteg, dewch yn aelod.
Byddwch yn rhan o’r chwaraeon anhygoel sy’n gymnasteg. Mae gan gymnasteg le i bawb, ac mae Gymnasteg Cymru’ yn cefnogi pobl sydd â diddordeb, sy’n weithgar ar hyn o bryd neu’n ceisio ail-ymuno â’r gamp ar draws Cymru.
Fel aelod bydd gennych fynediad i glybiau a gweithgareddau cysylltiedig ledled Cymru. Byddwch yn gallu cael gostyngiadau, cyfleoedd i aelodau yn unig, yswiriant, a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i gael y profiad gorau.
Aelodaeth | I pwy mae’r aelodaeth |
£19 | Gymnast a Swyddog Clwb |
£43 | Gymnast Cystadleuol a Hyfforddwyr Cynorthwyol |
£78 | Hyfforddwyr a Beirniaid Brevet |
Gwobrau Gymnasteg
Yn unig i’n haelodau, bydd y llwyfan Gwobrau Gymnasteg yn rhoi cyfle i bob aelod Gymnasteg Cymru a’u teulu leihau costau byw, drwy’r flwyddyn.
O’r casgliad enfawr o fanwerthwyr ar-lein a’r stryd fawr i arbedion bob dydd, cytundebau teithio, aelodaeth campfa gostyngol, i arian oddi ar y dechnoleg a’r ffasiwn ddiweddaraf… a chymaint mwy!
Canolfan Yswiriant
Mae Gymnasteg Cymru yn mynd trwy ddatblygiadau newydd cyffrous – gan ddechrau gyda system aelodaeth newydd a pholisïau yswiriant. Bydd aelodau Gymnasteg Cymru yn derbyn gwasanaethau yswiriant mewn ffordd newydd, o 1 Hydref 2023.