Your Cart

No items in cart

Beth i’w ddisgwyl mewn gymnasteg?

Mae gymnasteg yn cynnwys nifer o wahanol ddisgyblaethau gymnasteg, a gallwch gymryd rhan naill ai am reswm hwyliog, iechyd a lles, yn hamddenol neu’n gystadleuol. Waeth beth yw’r oedran neu’r gallu y mae’ch plentyn yn cymryd rhan ynddo, dylech ddisgwyl i’ch plentyn gael sesiynau diogel a hwyliog a gyflwynir gan hyfforddwr cymwys addas.   

Clybiau Cysylltiedig

Mae’r holl glybiau sy’n cael sylw ar ein gwefan yn gysylltiedig â Gymnasteg Cymru ac yn dilyn ein safonau a’n polisiau gofynnol. Mae hyn yn cynnwys pob clwb yn cael Swyddog Lles enwebedig a staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol ac efo DBS. Bydd gan glwb eu polisiau eu hunain ar gyfer eu hamgylchedd penodol a ddylai fod yn hygyrch i chi fel rhiant / gymnast, ond hefyd mae unrhyw glwb sydd yn cofrestru yn rhwym wrth bolisiau Gymnasteg Cymru:

1.Polisiau Diogelu

2.Polisiau cydymffurfio

Diogelu – Cwestiynau Cyffredin i Rhieni a Gymnastwyr

Pa wiriadau sy’n cael eu gwneud ar yr hyfforddwyr?

Mae gan Gymnasteg Cymru bolisi recriwtio diogel i’r clybiau ei ddilyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob gwirfoddolwr gwblhau gwiriadau cofnodion troseddol. Bydd hyfforddwyr yn cael eu gwirio yn erbyn y rhestr wahardd. 

Pa bolisiau mae’r clwb yn eu dilyn?

Bydd gan glybiau eu polisiau penodol eu hunain ar waith sy’n benodol i’w hamgylchedd a ddylai fod ar gael yn rhwydd i rieni naill ai ar eu gwefannau neu wrth law yn y clwb. Mae’r clybiau hefyd yn rhwymedig gyda pholisiau a gweithdrefnau Gymnasteg Cymru.

Beth ydw i’n ei wneud os oes gen i bryder?

Mae gennych nifer o opsiynau ar gael yn dibynnu ar lefel y pryder.   
Os oes gennych bryder diogelu siaradwch gyda’ch Swyddog Ddiogelu a Lles, dylai eu manylion fod ar gael yn hawdd yn y clwb. Fel arall, cysylltwch â safeguarding@welshgymnastics.org neu 02920 334978.
Os oes gennych bryder iechyd a diogelwch, rhowch wybod i’ch clwb, un ai ar unwaith i’r hyfforddwr neu reolwr y clwb.

Cafodd fy mhlentyn ddamwain beth ddylwn i ei wneud?

Ewch i’n canolfan yswiriant

Pa hyfforddiant mae’r hyfforddwyr wedi ei gael?

Mae rhaid i bob hyfforddwr ymgymryd â chyrsiau diogelu a diogelu plant, y mae’n rhaid iddynt eu hadnewyddu bob 3 blynedd.

Alla i dynnu lluniau a’u postio ar y cyfryngau cymdeithasol?

Bydd gan y clybiau eu rheolau eu hunain ar gymryd a phostio delweddau, mae mwy o wybodaeth i’w gweld yn uniongyrchol gan y clwb neu o’r polisi Ffotograffiaeth.

Sut alla i gefnogi fy mhlentyn?

Cefnogwch nhw i gael balans rhwng y chwaraeon a diddordebau eraill, cael sgwrs am wahanol bethau ar ôl hyfforddi a siarad yn agored am y sesiwn hyfforddi.
Ceir mwy o wybodaeth am sut i gefnogi eich plentyn ar wefan rhieni mewn chwaraeon (WWPIS) neu ar wefan amddiffyn plant mewn chwaraeon (CPSU)

Beth ddylwn i ddweud wrth y clwb?

Mae’n bwysig i gael cyfathrebiad agored â’r hyfforddwr os yw’ch plentyn yn cael diwrnod gwael neu’n cael trafferth gydag unrhyw beth.
Os yw’ch plentyn wedi rhoi gwybod am unrhyw anafiadau neu ‘niggles’, mae o’n bwysig i’r hyfforddwr wybod fel y gall newid y sesiwn hyfforddi.

Cefnogi gymnastwyr cystadleuol

Mae gan gymnasteg lawer y gall ei gynnig i unigolion, gall fod yn dysgu sgiliau newydd, herio eich hun, gwneud ffrindiau neu jyst cymryd rhan mewn gweithgareddau. Un o agweddau ein chwaraeon yw ei fod yn rhoi cyfle i gymnastwyr gystadlu a dangos eu sgiliau yn erbyn eraill. Weithiau gall gymnasteg fod yn heriol, felly rydym wedi llunio rhai pwyntiau cyflym i helpu rhieni gefnogi eu gymnasteg.

Cliciwch yma

Cymorth i gymnastwyr

Mae llawer o ffyrdd y gallwch gael mynediad at gymorth os oes angen. Dylech gael profiad cadarnhaol bob amser wrth gyflawni eich potensial. Rydym wedi llunio rhai offer a chyngor i sicrhau eich bod yn gwybod pa ymddygiadau sydd ddim yn dderbyniol o fewn gymnasteg a pha gymorth sydd ar gael i chi.

Cliciwch yma

Chwaraeon Glân

Mae Gymnasteg Cymru yn condemnio defnyddio cyffuriau ac arferion dopio perfformiad mewn chwaraeon yn llwyr, ac yn llwyr gefnogol o safbwynt y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, yr Asiantaeth Gwrth Gyffuriau'r Byd (WADA), UK Anti-Doping yn erbyn defnyddio sylweddau a dulliau sydd wedi'u gwahardd. Mae gan bob gymnastwr yr hawl i gystadlu mewn chwaraeon gan wybod eu bod nhw, a'u cystadleuwyr, yn lân.

Clicwch Yma

Join Our
Mailing List