Nid chi ddylai benderfynu os yw plentyn yn cael ei gamdrin ai peidio, ond eich cyfrifoldeb chi yw gweithredu os oes gennych bryderon. Dyw peidio gweithredu ddim yn opsiwn.
Mae Gymnasteg Cymru yma i helpu. Gan weithio gyda chlybiau, swyddogion lles, ac asiantaethau statudol, mae diogelu yn flaenoriaeth inni. Rydym yn sicrhau fod ein aelodau a’n clybiau cofrestredig yn cyfarfod anghenion penodol i ddiogelu ac amddiffyn.
(Darllenwch fwy am hyfforddiant diogelu).
- Ymateb i bryderon am ddiogelu plant ac arferion gwael
- Rhoi cyngor a chefnogaeth fel bod gan y clwb fesurau mewn lle i ddiogelu plant, pobl ifanc, ac oedolion sy’n wynebu risg
- Helpu’r clwb i gynnwys plant, pobl ifanc, ac oedolion sy’n gwynebu risg wrth wneud penderfyniadau a gweithgarwch arall
(Darllennwch fwy am benodi swyddog lles clwb, [linc sydd yn agor mewn ffenestr newydd).
[Mae’r lincs isod yn agor mewn ffenestri newydd]
Ffurflen adroddiad digwyddiad diogelu plentyn (Word, 2MB)
Ffurflen adroddiad digwyddiad diogelu plentyn (Pdf, 457KB)
Pwy sydd angen gwneud beth? Darllenwch ymlaen i gael mwy o wybodaeth am y pedwar cwrs diogelu: (Mae’r holl lincs hyfforddi isod yn agor mewn ffenestri newydd):
Cwrs arlein wedi ei anelu at bobl dros 16, arweinyddion, a chynorthwyr.
Nodwch fod hyfforddwyr unrhyw oedran lefel 1 yn gorfod gwneud cwrs llawn diogelu a amddiffyn plant. Dod o hyd i a gwneud cais am Foundation Safeguarding.
Cwrs 3 awr wyneb yn wyneb a argymhellir i bawb sy’n gweithio gyda phlant ac mae’n orfodol i bawb sy’n gorfod cael tystysgrif DBS (prawf heddlu).
Rhaid i bobl dan 18 fod yng nghwmni oedolyn.
Rhaid ail wneud yr hyfforddiant bob 3 blynedd, a gellir gwneud yr hyfforddiant adnewyddol arlein.
Wedi gwneud cais am y cwrs yma, bydd angen ichi dalu Gymnasteg Cymru.
Dod o hyd i a gwneud cais am Safeguarding and Protecting Children
Mae’r adnewyddiad yma ar gyfer pobl sydd wedi cwblhau hyfforddiant llawn diogelu a amddiffyn plant yn unig.
Dod o hyd i a gwneud cais am adnewyddiad arlein: Diogelu ac Amddiffyn Plant (online refresher: Safeguarding and Protecting Children)
Hyfforddiant wyneb yn wyneb i swyddogion lles clwb, sy’n gorfod:
Bod yn o leia 18 mlwydd oed ar ddiwrnod y cwrs, a bod ym meddiant tystysgrif Diogelu ac Amddiffyn Plant llawn (Noder: dyw’r cwrs Diogelu Sylfaenol arlein DDIM yn dderbyniol fel sail i gwrs Amser i Wrando).
Wedi gwneud cais am y cwrs yma, bydd angen ichi dalu Gymnasteg Cymru.
Dod o hyd i a gwneud cais am Amser i Wrando (Time to Listen).
Penodi swyddog lles
Cadw’n ddiogel – Mwy o wybodaeth a lincs defnyddiol