Skip to content
Close notice

Our website uses cookies to give you the best possible experience. Cookies are unique identifiers that we transfer to your device to enable our systems to remember your session and how you interacted with the website. They are not there to identify you personally. To find out more about the cookies we use, click here.

Profion record troseddol: un rhan o recriwtio diogel

Mae Gymnasteg Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio profion record troseddol (Disclosure Barring Service, neu DBS) fel rhan allweddol o recriwtio diogel. 

Mae profion record troseddol (o’r blaen, profion CRB, nawr DBS), ond yn un rhan o recriwtio diogel ac arferion eraill o gadw plant ac oedolion sy’n gwynebu risg yn ddiogel rhag camdriniaeth o unrhyw fath.

Pwy sydd angen prawf DBS?

Mae unrhyw un sydd yn gweithio’n rheolaidd gyda phlant neu oedolion bregus (yn daliedig neu beidio) angen tystysgrif DBS.

Mae’n broses gyflym a syml:

  • Edrychwch ar y siart hon sy’n esbonio mwy am y personau yn eich clwb sy’n gorfod cael prawf DBS [linc yn agor mewn ffenestr newydd].
  • Dylai un person neu bobol penodedig yn eich clwb (yn aml y swyddog lles a/neu y prif hyfforddwr) fod yn gyfrifol am wirio ceisiadau
  • Os ydych chi angen prawf DBS, gall y person penodedig yn eich clwb anfon linc ichi ar gyfer eich cais arlein, a gall hefyd wirio eich ID
  • Os oes gennych unrhyw broblemau gyda’r broses hon, cysylltwch â Gymnasteg Cymru

Ble alla’i ganfod mwy o wybodaeth?

(Mae’r lincs isod yn agor mewn ffenestri newydd)
Cwestiynau cyffredin am brofion record troseddol
Darllenwch fwy am ein polisiau a chanllawiau DBS