Your Cart

No items in cart

Maria Gaynor

Rheolwr Rhaglen

Hanes Gymnasteg:Ymunodd Maria â Gymnasteg Cymru yn 2017 fel swyddog datblygu disgyblaeth di-olympaidd ac ers hynny mae ei rôl o fewn y sefydliad wedi esblygu yn fawr iawn.

Mae hi bellach yn rheoli’r llwybrau a’r rhaglenni disgyblaeth di-olympaidd, ynghyd â bod yn arweinydd gweithredol ar gyfer anableddau yn ein disgyblaethau. Yn ddiweddar, mae Maria wedi cymryd ar fwrdd safoni ein cynnig cystadlu, gyda’r bwriad o dyfu’r hyn rydyn ni’n ei gynnig i’n haelodau ar hyn o bryd – gan roi gwerth a chyfleoedd iddyn nhw drwy gydol llwybrau disgyblaeth.

Mwy amdan Maria: Tu allan i gymnasteg, mae Maria’n hyfforddu mewn clwb lleol, tra’n grefftwr angerddol ac yn hoff o anifeiliaid. Yn ddiweddar, mae hi wedi fod yn ailgylchu eitemau bach o ddodrefn, sy’n dod yn ddefnyddiol ar gyfer ei thŷ newydd! Mae hi hefyd wrth ei bodd yn darllen, gyda llyfrau Dan Brown yn ffefryn cadarn.

Join Our
Mailing List