Rôl Sonia yw…
Cynnig cymorth ac arweiniad i’r Bwrdd, yn ogystal ag arbenigedd a safbwynt gwrthrychol ar y meysydd diogelu, lles athletwyr, lles a dyletswydd gofal
Beth sy’n cadw Sonia yn brysur:
- Gweithio gyda’r Bwrdd i sicrhau ymateb cadarn ac amserol i ganfyddiadau Adolygiad diweddar Whyte ac Adolygiad Diogelu Annibynnol Gymnasteg Cymru.
- Hyrwyddo diogelu a lles gymnastwyr, hyfforddwyr a staff ar draws pob maes o weithgarwch y Bwrdd.
Hanes gymnasteg: Ar ôl mwynhau gymnasteg yn blentyn, drwy ei hysgol a’i chlwb lleol, parhaodd Sonia yn ddiweddarach ei chariad at y gamp fel rhiant gymnastwr ac fel dilynwr brwdfrydig o gymnastwyr Prydeinig ar lwyfan y byd.
Mae Sonia yn angerddol yn ei chred bod cyfranogiad plant mewn chwaraeon, yn dod â llu o fanteision corfforol, meddyliol a chymdeithasol a thrwy ei gwaith gyda Bwrdd Gymnasteg Cymru, mae’n ymdrechu i sicrhau bod cymryd rhan mewn gymnasteg yn cynnig lle diogel a chefnogol i blant a phobl ifanc ffynnu fel athletwyr