Your Cart

No items in cart

Victoria Ward

PRIF SWYDDOG GWEITHREDOL

PRIF SWYDDOG GWEITHREDOL

Cymerodd Victoria yr awenau fel Prif Swyddog Gweithredol Gymnasteg Cymru ym mis Gorffennaf 2022.

Mae wedi treulio llawer o’i gyrfa wedi ymrwymo i’r busnes o greu a chyflwyno strategaethau i gefnogi gwytnwch a chynaliadwyedd o fewn y sector nid-er-elw, yn bennaf ar gyfer chwaraeon.

Mae hyn wedi cynnwys gweithio gyda Cwpan Ryder Cymru, Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm, Coca-Cola a McDonalds.

Cyn ymuno â Gymnasteg Cymru, gwasanaethodd Victoria fel Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Chwaraeon Cymru am bron i wyth mlynedd; gyrru newid ymlaen ym mhob agwedd ar y busnes o strwythurau llywodraethu i ddatblygiad masnachol. Victoria hefyd oedd yn arwain y llyw wrth gefnogi chwaraeon Cymru i lywio heriau Covid-19.

Mae’n aelod o Fwrdd Cynghori Rhyngwladol Prifysgol Caerdydd a hi yw sylfaenydd ac Ymddiriedolwr Sefydliad Chwaraeon Cymru sy’n dod i’r amlwg, gyda chenhadaeth graidd i sicrhau nad yw cyllid yn rhwystr i unrhyw blentyn yng Nghymru sydd eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol.

Join Our
Mailing List